John Lloyd Williams
Oddi ar Wicipedia
Cerddor a Botanegydd oedd John Lloyd Williams (1854 - 1945). Cafodd ei eni yn y Plas Isa, Llanrwst, a oedd yn gartref ar un adeg i William Salesbury. Ar ôl cael addysg elfennol yn ysgol y 'Britis' yn Llanrwst enillodd ysgoloriaeth i Goleg Normal, Bangor. Yn 1875 fe'i penodwyd yn brifathro ysgol newydd Garndolbenmaen, ac yn 1893 aeth i'r Royal College of Science yn Kensington gan astudio dan yr Athro John Bretland Farmer. Yn 1897 cafodd swydd darlithydd cynorthwyol ym mhrifysgol Bangor. Penodwyd ef yn Athro Botaneg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn 1915. Mae wedi ei gladdu yng Nghricieth.
[golygu] Cerddoriaeth
Mae'n debyg ei fod yn fwyaf enwog am ei waith yn casglu hen alawon gwerin ac ef sefydlodd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru.
[golygu] Botaneg
Roedd John Lloyd Williams yn fachgen ifanc pan oedd dadl esbygiaeth yn ei hanterth yn dilyn cyhoeddi The Origin of Species Charles Darwin. Roedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hefyd yn gyfnod datblygu yr astudiaeth o ddosbarthiad daearyddol planhigion.
Daeth John lloyd Williams o hyd i un o redynau prinnaf Cymru sef yr hyn a elwir heddiw yn T. speciosum. Yn Saesneg gelwir hi'n Killarney fern, a bristle fern. Yr enw Cymraeg yw rhedynen wrychog neu'r llugwe fawr.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Byd y Blodau 1924
- Flowers of the wayside and Meadow 1927
- Atgofion Tri Chwarter Canrif (Pedair cyfrol rhwng 1941 - 1945
Ffynhonnell - Traethodydd 2000 Erthygl gan Dewi Jones