Derrick Greenslade Childs
Oddi ar Wicipedia
Roedd Derrick Greenslade Childs (bu farw 1987) yn Esgob Mynwy o 1972 hyd 1986 ac yn Archesgob Cymru o 1983 hyd 1986.
Bu Derrick Childs yn Brifathro Coleg y Drindod, Caerfyrddin cyn dod yn Esgob Mynwy. Dyfarnodd Prifysgol Cymru radd D.D. er anrhydedd iddo yn 1986. Ymddeolodd yn haf 1986, a bu farw o ganlyniad i ddamwain fodur yn 1987.
Rhagflaenydd: Eryl Stephen Thomas |
Esgob Mynwy Awst 1972 – 1986 |
Olynydd: Royston Clifford Wright |
Rhagflaenydd: Gwilym Owen Williams |
Archesgob Cymru 1983 – 1986 |
Olynydd: George Noakes |