Caradog Jones
Oddi ar Wicipedia
Mynyddwr enwog o Gymro yw Caradog "Crag" Jones (ganed 1962).
Mae wedi bod y cyntaf i ddringo sawl copa o gwmpas y byd, ond mae'n adnabyddus yn bennaf fel y Cymro cyntaf i ddringo Mynydd Everest, mynydd uchaf y byd, camp a gyflawnodd ar y 23ain o Fai 1995, yn 33 oed. Ef oedd y 724fed dringwr i gyrraedd y copa.[1] Esgynodd i'r copa yng nghwmni Michael Knakkergaard-Jorgensen, y Daniad cyntaf i gyrraedd copa Everest.
Cymro Cymraeg yw Caradog Jones, a aned ym mhentref Pontrhydfendigaid, ger Tregaron, Ceredigion. Yn blentyn, cafodd ei ysbrydoli gan anturiaethau yr arloeswyr cynnar ar Everest, a oedd yn adnabyddus iddo am eu bod wedi ymarfer ar gyfer dringo'r mynydd yn Eryri.[2] O bryd i'w gilydd mae wedi ymddangos ar S4C a siarad ar Radio Cymru am ei anturiaethau ym myd dringo.
[golygu] Cyfeiriadau
[golygu] Dolenni allanol
- (Saesneg) Erthygl ar wefan BBC Wales Dringo Everest
- Video ar BBC Wales Profiadau Jones ar Everest