Blodeugerddi Cymraeg
Oddi ar Wicipedia
Erthyglau ynglŷn â Llenyddiaeth Gymraeg |
Cyfnodau |
Canu cynnar · Oesoedd Canol |
Barddoniaeth a drama |
Yr Hengerdd · Canu'r Bwlch |
Rhyddiaith |
Rhyddiaith Cymraeg Canol |
Erthyglau eraill |
Llawysgrifau · Llên gwerin |
Detholiad o gerddi wedi'u casglu ynghŷd yw blodeugerdd. Fel rheol mae rhyw thema neu berthynas rhwng y cerddi hynny, er enghraifft cerddi serch, cerddi ar yr un mesurau, neu gerddi gan feirdd sy'n perthyn i'r un genedl neu gyfnod, ac ati. Dros y blynyddoedd cafwyd sawl enghraifft o flodeugerdd Gymraeg. Mae rhai ohonyn nhw wedi bod yn gerrig milltir pwysig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Dyma restr ddethol:
[golygu] Blodeugerddi cyn 1900
- Flores Poetarum Britannicorum (1710), gol. Dafydd Lewys, Llanllawddog, o gasgliad gan y Dr. John Davies, Mallwyd
- Tlysau yr Hen Oesoedd (1735), gol. Lewis Morris
- Blodeu-gerdd Cymry (1759 a 1779), gol. Dafydd Jones o Drefriw
- Dewisol Ganiadau yr Oes Hon (1759), gol. Huw Jones, Llangwm
- Diddanwch Teuluaidd (1763), gol. Huw Jones, Llangwm
- Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards (1764), gol. Evan Evans (Ieuan Fardd)
- Gorchestion Beirdd Cymru (1773), gol. Rhys Jones o'r Blaenau
- Blodau Dyfed (1824), gol. John Howell
- Caniadau Cymru (1897; adargraffiad 1907), gol. William Lewis Jones
[golygu] Blodeugerddi diweddar
- Cywyddau Cymru (1908; adargraffiad 1926), gol. Arthur Hughes
- Y Flodeugerdd Newydd (1909), gol. W. J. Gruffydd
- Blodeuglwm o Englynion (1920), gol. W. J. Gruffydd
- Rhwng Doe a Heddiw: Casgliad o delynegion Cymraeg (1926), gol. W. S. Gwynn Williams
- Y Flodeugerdd Gymraeg (1931), gol. W. J. Gruffydd
- Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif (1936), gol. Gwenallt
- Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg (1962), gol. Thomas Parry
- Yr Awen Ysgafn (1966), gol. Urien Wiliam
- Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif (1987), gol. Gwynn ap Gwilym ac Alan Llwyd
- Cadwn y Mur: Blodeugerdd Barddas o Ganu Gwladgarol, gol. Elwyn Edwards