Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif
Oddi ar Wicipedia
Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif yw'r flodeugerdd fwyaf cynhwysfawr o waith beirdd Cymraeg yr 20fed ganrif sydd ar glawr. Cafodd ei chyhoeddi gan Wasg Gomer ar y cŷd â Chyhoeddiadau Barddas yn 1987, wedi'i golygu gan y beirdd Gwynn ap Gwilym ac Alan Llwyd.
Mae'r flodeugerdd yn gyfrol fawr swmpus 736 tudalen sy'n cynnwys 550 o gerddi gan tua 100 o feirdd, ac sy'n ceisio cynrychioli pob agwedd ar farddoniaeth Gymraeg y cyfnod (ac eithrio degawd olaf y ganrif). Mae'n waith uchelgeisiol iawn a osododd safonau newydd ar gyfer cyhoeddi barddoniaeth gyfoes yng Nghymru. Yn ogystal â'r cerddi eu hunain ceir dros 110 tudalen o nodiadau yn gosod y cerddi yn eu cyd-destun.
Ceir ynddi waith y bardd gwlad a beirdd traddodiadol dechrau'r ganrif a gwaith modern arloesol, canu caeth a vers libre.
Mae'r beirdd yn cynnwys Euros Bowen Cynan, I. D. Hooson, Gwenallt, Saunders Lewis, John Morris-Jones, Bobi Jones, Dic Jones, T. Gwynn Jones, Gerallt Lloyd Owen, T. H. Parry-Williams, R. Williams Parry, Caradog Prichard, Gwyn Thomas, Harri Webb, Rhydwen Williams, Waldo Williams, Eifion Wyn, a llu o feirdd eraill.